Mae Adam wedi casglu cyfoeth o brofiad ar draws sectorau a thechnegau ymchwil ers dechrau ei fywyd fel ymchwilydd ansoddol.
Datblygodd ei grefft ansoddol gydag Reflexions Communication Research, gan ganolbwyntio’n bennaf ar gyfathrebu yn y sector cyhoeddus / astudiaethau cysylltiedig â hysbysebu. Yn awyddus i brofi bywyd mewn asiantaeth fawr, yna symudodd i GfK NOP, gan dreulio amser yn yr adran Ymchwil Gymdeithasol cyn ymuno â’r is-adran Busnes a Thechnoleg.
Mae arbenigeddau Adam yn canolbwyntio ar gyfathrebu, ymddygiad, ymchwil yn ymwneud ag iechyd y cyhoedd ac ymchwil busnes i fusnes. Enillodd Adam Wobr Effeithiolrwydd Ymchwil Busnes MRS / BIG am ei bapur a oedd yn asesu byrddau bwletin mewn cyd-destun B2B, ac yn darparu ‘cyfraniad pwysig at arfer gorau’.
I ffwrdd o’r swyddfa mae Adam yn helpu yn ei glwb taekwondo lleol a gyda rhedeg tîm pêl-droed iau. Treulir unrhyw amser rhydd sy’n weddill yn gwneud y gorau o draethau ‘South Wales’ ar gyfer syrffio a bryniau ar gyfer beicio ar y ffyrdd.