Mae Beaufort yn falch o ymgymryd â’r unig arolwg Omnibws o siaradwyr Cymraeg. Mae’n cynnig ffordd hyblyg a chost-effeithiol i asesu ymddygiad, safbwyntiau ac agweddau o drawstoriad o’r boblogaeth sy’n siarad Cymraeg.
Y nodweddion allweddol yw:
– Sampl cwota cynrychiadol, yn cynnwys lleiafswm o 400 oedolyn sy’n medru siarad Cymraeg, 16+ oed sy’n byw yng Nghymru.
– Wedi’i gynnal ddwywaith y flwyddyn, ym mis Mawrth a mis Medi.
– Wedi’i gynnal gan ddefnyddio panel ar-lein.
– Wedi’i gynnal yn gwbl ddwyieithog fel bod cyfranogwyr yn medru cymryd rhan drwy’u hiaith ddewisol (Cymraeg neu Saesneg).
– Cyngor arbenigol ar ddylunio holiaduron a ddarperir gan ein tîm profiadol fel rhan o’r gwasanaeth.
– Ystod lawn o opsiynau adrodd.