Omnibws Cymru

Mae Omnibws Cymru yn ddelfrydol os oes angen mewnwelediad arnoch chi i safbwyntiau’r cyhoedd yng Nghymru. Rydym yn arolygu sampl cynrychiolaeth fawr o 1,000 o oedolion ledled Cymru pum gwaith y flwyddyn gan ddefnyddio panel ar-lein.

Buddion Omnibws Cymru yw:

– Hyder yn y ffaith bod yr unigolion sy’n cael eu cyfweld yn gynrychiolaeth gywir o boblogaeth Cymru. Mae rheolaethau cwota demograffig sy’n cyd-gloi wedi’u gosod ar oedran o fewn rhywedd, gyda chwota pellach ar radd gymdeithasol. Cynhaliwyd cyfweliadau â thrigolion o bob awdurdod lleol yng Nghymru.

– Cynhelir arolygon pum gwaith y flwyddyn – ym mis Ionawr, Mawrth, Mehefin, Medi a Thachwedd.

– Gellir dangos mesuriadau adalw cywir ar gyfer hysbysebu neu agweddau gweledol eraill fel amrywiaeth o ddeunydd ysgogol, gan gynnwys hysbysebion Teledu, radio a digidol, drwy ein meddalwedd casglu data.

Hunan-gwblhau, gan osgoi’r angen am gyfwelydd a gellid dadlau ei fod yn arwain at atebion mwy gonest ar bynciau a allai fod yn agored i duedd dymunoldeb cymdeithasol.

Effeithiolrwydd cost.

Wedi’i gynnal yn gwbl ddwyieithog fel bod cyfranogwyr yn medru cymryd rhan drwy’u hiaith ddewisol (Cymraeg neu Saesneg).

Cyngor arbenigol ar ddylunio holiaduron a ddarperir gan ein tîm profiadol fel rhan o’r gwasanaeth.

Ystod lawn o opsiynau adrodd.

 

 

Dyddiadau arolwg Omnibws