Darparu mewnwelediad i anghenion pobl ifanc 16-24 oed yng Nghymru o ran addysg, hyfforddiant, a gwaith
Mae Llywodraeth Cymru wedi ymrwymo i sicrhau bod lleisiau pobl ifanc yn dylanwadu ar ei phenderfyniadau yng nghyswllt polisïau a gweithgareddau sy’n eu heffeithio.
Mae’r Warant i Bobl Ifanc yn ymrwymiad a wnaed gan Lywodraeth Cymru i sicrhau bod pobl ifanc yng Nghymru’n derbyn y gefnogaeth a’r cyfleoedd y mae eu hangen arnynt i gyflawni eu potensial, yn dilyn y modd yr oedd pandemig COVID-19 wedi amharu ar eu bywydau. Mae’r Warant i Bobl Ifanc yn gwarantu cynnig o gefnogaeth i helpu pobl ifanc, naill ai i sicrhau lle ar eu cyfer mewn addysg neu hyfforddiant, i ddod o hyd i gyflogaeth, neu ddod yn hunangyflogedig. Mae’r warant hon ar gyfer pob unigolyn 16-24 oed sy’n byw yng Nghymru.
Ym mis Mai 2022, lansiodd Llywodraeth Cymru ei Sgwrs Genedlaethol gyda phobl ifanc yng Nghymru i gael gwell dealltwriaeth o farn pobl ifanc 16-24 oed ynghylch y cymorth sydd ar gael, beth sydd ei angen arnynt, a’r rhwystrau a wynebir ganddynt.
Fel rhan o’r Sgwrs Genedlaethol, comisiynwyd Beaufort Research gan asiantaeth gyfathrebu Golley Slater i archwilio barnau a phrofiadau pobl ifanc. Fel rhan o’r gwaith ymchwil, cafwyd tair ton o ymchwil ansoddol dros gyfnod o flwyddyn, ynghyd â sawl astudiaeth dracio gan ddefnyddio Arolwg Omnibws Cymru.
Roedd ein sampl ansoddol yn ystod y 12 mis yn cynnwys pobl ifanc o gefndiroedd amrywiol, fel y rheiny nad ydynt mewn addysg, cyflogaeth neu hyfforddiant (NEET), gofalwyr ifanc, pobl ifanc anabl, a’r rheiny sydd mewn perygl o fod yn ddigartref, neu sydd â phrofiad o hynny. Cafodd y trafodaethau eu teilwra gennym i ddiwallu anghenion cyfranogwyr trwy drefnu grwpiau llai, cyfweliadau fesul pâr, sesiynau wyneb yn wyneb ac ar-lein, a rhai a oedd yn cynnwys gweithwyr cymorth lle bo angen.
Hefyd, roedd sawl cyfranogwr o gam cyntaf y gwaith ymchwil wedi cymryd rhan mewn trafodaethau diweddarach, a oedd yn canolbwyntio’n fanylach ar themâu a oedd wedi ymddangos yn flaenorol, fel iechyd meddwl, heriau o ran trafnidiaeth, a phrofiad gwaith.
Roedd gweithio yn y modd hwn, ar sail ‘panel’, yn caniatáu i ni ddarparu adborth i gyfranogwyr yn ystod y gwaith ymchwil ynghylch y camau yr oedd Llywodraeth Cymru’n eu cymryd mewn ymateb i’r Sgwrs Genedlaethol. Mae Golley Slater a Llywodraeth Cymru wedi bod yn defnyddio ein mewnwelediadau mewn sawl modd, gan gynnwys datblygu ymgyrchoedd sy’n annog pobl ifanc i archwilio’r gefnogaeth sydd ar gael yng Nghymru i gyflawni eu hamcanion o ran addysg, hyfforddiant, a chyflogaeth.
Dychwelyd i astudiaethau achos