Llywio rhaglen atal gordewdra Iechyd Cyhoeddus Cymru

 

Mae Iechyd Cyhoeddus Cymru wedi nodi 10 Cam sy’n effeithio os ydy plentyn yn bwysau iach pan fyddant yn bump oed ac wedi datblygu rhaglen waith (10 Cam i Bwysau Iach) i wella gwybodaeth, agweddau ac ymddygiadau rhieni, gofalwyr a neiniau a theidiau mewn perthynas â’r 10 Cam.

Er mwyn cael dealltwriaeth o wybodaeth, agweddau ac ymddygiadau rhieni a gofalwyr plant 0-5 oed mewn perthynas â gor-bwysau a gordewdra, a’r ffactorau sy’n dylanwadu ar hyn, comisiynodd Iechyd Cyhoeddus Cymru Beaufort Research i gynnal arolwg ffôn o sampl gynrychioledig o 1,500 o rieni a gofalwyr plant rhwng 0 a 5 oed yng Nghymru.

Darparodd yr Ymchwil mewnwelediad ar ddealltwriaeth rhieni o effeithiau iechyd o fod dros bwysau neu’n ordew yn 5 oed (e.e. diet, cwsg, bwydo ar y fron, chwarae y tu allan, amser sgrin); gwybodaeth, agweddau ac ymddygiadau mewn perthynas â’r ffactorau a nodwyd sy’n dylanwadu i blant fod dros bwysau; a datgelodd wahaniaethau mewn gwybodaeth, agweddau ac ymddygiadau yn ôl oedran, ardaloedd daearyddol, ethnigrwydd a statws cyflogaeth rhieni a gofalwyr.

Llywiodd yr arolwg hwn raglen o waith mewn perthynas ag atal gordewdra, gan alluogi Iechyd Cyhoeddus Cymru i dargedu adnoddau yn effeithiol, ac yn barhaus, bydd yr arolwg yn galluogi monitro a gwerthuso’r 10 Cam at raglen Pwysau Iach.

Dychwelyd i astudiaethau achos