Fel Swyddog Gweithrediadau Beaufort Research, mae Jane yn gyfrifol am ystod o ddyletswyddau o fewn yr adran Gweithrediadau. Mae goruchwyliaeth gyffredinol o’r tîm cyfweliadau dros y ffôn yn un o’i chyfrifoldebau, sy’n cynnwys dyrannu gwaith i gyfwelwyr ffôn sydd wedi’u hyfforddi’n briodol er mwyn sicrhau bod yr holl brosiectau’n cael eu cwblhau’n llwyddiannus ac yn brydlon. Mae Jane yn arwain y gwaith hefyd o recriwtio cyfranogwyr lefel uwch yn fewnol ar gyfer prosiectau rhanddeiliaid a B2B.
Mae Jane yn ymddiddori mewn llenyddiaeth, ysgrifennu a’r theatr. Ar y noson cyn iddi gymryd ei lle yn y brifysgol, derbyniodd gynnig annisgwyl i ymuno â’r tîm rheoli llwyfan yn y Liverpool Playhouse. Neidiodd Jane ar ei hunion am y cyfle ac, felly, ‘rhedodd i ffwrdd gyda’r syrcas’ am y 25 mlynedd nesaf. Roedd ei huchafbwyntiau’n cynnwys sawl cynhyrchiad West End a chyfnod preswyl yn Efrog Newydd.
Yn ystod ei chyfnod gyda Beaufort, cyrhaeddodd Jane y brifysgol yn y diwedd. Gyda diolch i’r Brifysgol Agored, gallai archwilio dau o’i hoff ddiddordebau, Shakespeare ac Ysgrifennu Creadigol.